Crea galon lân yno i, O Dduw; a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.@Salm 51:10

Daniel James (1848–1920).

John Hughes (1872–1914) (🔊 pdf nwc).

portread
Daniel James (1848–1920)

Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.

Cytgan

Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu—
Canu’r dydd a chanu’r nos.

Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.

Cytgan

Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i’r nef ar edyn cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.

Cytgan