Buodd y bobl hyn farw, wedi credu yn Nuw ond heb dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi ei addo iddyn nhw. Ond roedden nhw yn gweld y cwbl o bell, ac yn edrych ymlaen yn frwd. Roedden nhw’n dweud yn agored mai pobl ddieithr yn crwydro’r tir oedden nhw ac mae’n amlwg fod pobl sy’n siarad felly yn edrych am eu mamwlad.@Hebraid 11:13–14
portread
John Newton (1725–1807)

John Newton, Olney Hymns (London: W. Oliver, 1779) (Amazing Grace); Will­iam Will­iams.

New Britain, Virginia Harmony, 1831 (🔊 pdf nwc).

portread
William Williams (1717–1791)

Pererin wyf mewn anial dir,
Yn crwydro yma a thraw;
Ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
Fod ty fy Nhad gerllaw.

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia’r ffordd,
Bydd imi’n niwl a thân;
Ni cherdda’ i’n gywir hanner cam
Ond byddi di o’m blaen.

Mae hiraeth arnaf am y wlad
Lle mae torfeydd di-ri’
Yn canu’r anthem ddyddiau’u hoes
Am angau Calfari.