Os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod.@1 John 1:7

rhagymadrodd

Morgan Rhys (1716–1779).

John Roberts, 1839 (🔊 pdf nwc).

O gariad! O gariad!
Anfeidrol ei faint,
Fod llwch mor annheilwng
Yn cael y fath fraint;
Cael heddwch cydwybod,
A’i chlirio trwy’r gwaed,
A chorff farwolaeth,
Sef llygredd, dan draed.

Nis gallai holl ddyf roedd
Y moroedd i gyd
Byth olchi anwiredd
Fy nghalon mewn pryd;
Ond ffynnon Calfaria
A’i purra’n ddiboen;
Rhyfeddol yw rhinwedd
Marwolaeth yr Oen.

Mae’r Jiwbil dragwyddol
Yn awr wrth y drws,
Fe gododd yr heulwen,
Ni gawson y tlws;
Daw gogledd a dwyrain,
Gorllewin a de,
Yn lluoedd i foli tywsog y ne’!