Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod.@1 Corinthiaid 13:12
portread
John O. Williams (1853–1932)

John O. Will­iams (1847–1922).

John Ed­wards, Y Ca­nie­dydd Cynulleidfaol, 1921 (🔊 pdf nwc).

O fendigaid Geidwad,
Clyw fy egwan gri!
Crea ddelw’th gariad
Yn fy enaid i:
Carwn Dy gymundeb
Nefol, heb wahân,
Gwelwn wedd Dy wyneb,
Ond cael calon lân.

Plygaf i’th ewyllys,
Tawaf dan bob loes,
Try pob Mara’n felys,
Braint fydd dwyn y groes;
Molaf Dy drugaredd
Yn y peiriau tân;
Digon, yn y diwedd,
Fydd cael calon lân.

O fendigaid Arglwydd,
Ar fy nhaith trwy’r byd,
Gwynned Dy sancteiddrwydd
Ddyddiau’m hoes i gyd!
Angeu dry’n dangnefedd,
Try y Farn yn gân;
Nefoedd wen ddiddiwedd
Fydd i’r galon lân.