Y mae’r Arglwydd yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi.@2 Chronicles 20:15

Will­iam Will­iams (1717–1791).

John D. Edwards, 1840 (🔊 pdf nwc).

portread
William Williams (1717–1791)

Mae’r faner fawr ymlaen,
Efengyl nef yw hon;
Mae uffern lawn o dân
Yn crynu ’nawr o’r bron;
Hi gwymp, hi gwymp, er maint ei grym;
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.

Na lwfrhaed ein ffydd;
Mae’n ffydd fel colofn dân
A blannodd Brenin nef
I’n harwain yn y blaen;
Mi wela’r wlad, mi gâ’i mwynhau,
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.

O! ffynnon fawr o hedd,
O! anchwiliadwy fôr,
Sy’n cynnwys ynddo’i hun
Ryw annherfynol stôr;
Ti biau’r clôd; wel, cymer ef,
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef.
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef.