Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir.@Eseia 32:15
portread
Gutyn Arfon (1849–1919)

David Charles (1803–1880).

Gu­tyn Ar­fon (1849–1919) (🔊 pdf nwc).

portread
David Charles (1803–1880)

O! Iesu mawr, rho d’anian bur
I eiddil gwan mewn anial dir,
I’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy
Ar ddyrys daith i’r Ganaan fry.

Pob gras sydd yn yr Eglwys fawr,
Fry yn y nef, neu ar y llawr,
Caf feddu’n oll, eu meddu’n un,
Wrth feddu d’anian Di dy Hun.

Mi lyna’n dawel wrth dy draed,
Mi ganaf am rinweddau’r gwaed,
Mi garia’r groes, mi nofia’r don,
Ond cael dy anian dan fy mron.