Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i.@1 Ioan 1:7
portread
Lewis Hartsough (1828–1919)

Lew­is Hart­sough, 1872 (I Hear Thy Wel­come Voice); John Ro­berts (Ieuan Gwyllt) (1822–1877).

Lew­is Hart­sough, 1872 (🔊 pdf nwc).

portread
Ieuan Gwyllt (1822–1877)

Mi glywaf dyner lais,
Yn galw arnaf fi,
I ddod a golchi ’meiau gyd,
Yn afon Calfari.

Byrdwn

Arglwydd, dyma fi
Ar dy alwad di,
Golch fi’n burlan yn y gwaed[9]
A gaed ar Galfari.

Yr Iesu sy’n fy ngwadd,
I dderbyn gyda’i saint,
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd,
A phob rhyw nefol fraint.

Byrdwn

Yr Iesu sy’n cryfhau,
O’m mewn Ei waith trwy ras;
Mae’n rhoddi nerth i’m henaid gwan,
I faeddu ’mhechod cas.

Byrdwn

Gogoniant byth am drefn,
Y cymod a’r glanhad;
Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y gwaed.

Byrdwn