Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.@Ioan 3:16
portread
Robert Lowry (1826–1899)

Will­iam Rees (1802–1883).

Ro­bert Low­ry, 1876 (🔊 pdf nwc).

portread
William Rees (1802–1883)

Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:
T’wysog bywyd pur yn marw—
Marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio cofio amdano
Pwy all beidio canu ei glod?
Dyma gariad nad â’n anghof
Tra bod nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynonau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd
Oeddynt gytfain hyd yn awr:
Gras a chariad megis dylif
Yn ymdywallt yma’nghyd,
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd.