Y mae dy air yn llusern i’m troed, ac yn oleuni i’m llwybr.@Salm 119:105
portread
Richard Davies
1833–1877

Ri­chard Da­vies a Tho­mas Le­vi.

Lud­wig van Beet­ho­ven (🔊 pdf nwc).

portread
Ludwig van Beethoven
1770–1827

Dyma Feibil annwyl Iesu,
Dyma rodd deheulaw Duw;
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y golled erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i’r bywyd
Trwy adnabod Iesu Grist.

Feibil gwerthfawr! caiff dy eiriau
Gartref yn fy mynwes i;
Mae bendithion myrdd myrddiynau
Yn dy addewidion di;
Bu fy nghalon dlawd yn crwydro
Mewn anialwch sych a gwyw;
Nes i ti fy nhywys trwyddo
At geulannau afon Duw.

Cuddiaf d’eiriau yn fy nghalon—
Gwnaf yn ddyfnach nag erioed;
Byddi’n llewyrch i fy llwybrau,
Ac yn llusern i fy nhroed;
Cyfaill fyddi ar y ddaear
Erys drwy fy oriau brau;
Yn y nef am dragwyddoldeb
Bydd dy drysor yn parhau.