Dysgwch hwy i’ch plant, a’u crybwyll wrth eistedd yn y dŷ ac wrth gerdded ar y ffordd, wrth fynd i orwedd ac wrth godi.@Deuteronomium 11:19

How­ell E. Lew­is (1860–1953).

Car­a­dog Ro­berts, cir­ca 1920 (🔊 pdf nwc).

portread
Caradog Roberts (1878–1935)

Da yw bod wrth draed yr Iesu,
Ym more oes;
Ni chawn neb fel Ef i’n dysgu,
Hyd ddiwedd oes:
Dan Ei groes mae ennill brwydrau,
A gorchfygu temtasiynau—
Achos Crist yw’r achos gorau,
Ar hyd ein hoes.

Cawn Ei air i buro’r galon,
Ym more oes;
A chysegru pob gobeithion,
Ym more oes;
Wedi dod ym mlodau’n dyddiau,
Ni bydd eisiau gado’i lwybrau—
Cawn fynediad i’w drigfannau,
Ar ddiwedd oes.