Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.@Luc 23:42
portread
Thomas Haweis (1734–1820)

Tho­mas Ha­weis (1734–1820) (O Thou from Whom All Good­ness Flows); Ev­an Ev­ans (1795–1855).

Mil­wau­kee (Pro­the­ro), Da­ni­el W. Pro­the­ro (1866–1934) (🔊 pdf nwc).

At un a wrendy weddi’r gwan
’Rwyf yn dyrchafu ’ngrhi;
Ym mhob cyfyngder, ing, a phoen,
O Dduw! na wrthod fi.

Er mor annheilwng o fwynhau
Dy bresnoldeb Di,
A haeddu ’mwrw o ger Dy fron,
O Dduw! na wrthod fi.

Er bod yn euog o dristáu
Dy Ysbryd sanctaidd Di,
A themtio Dy amynedd mawr,
O Dduw! na wrthod fi.

Er mwyn Dy grog a’th angau drud
Ar fyndd Calfari,
A’th ddwys eiriolaeth yn y nef
O Dduw! na wrthod fi.